Telerau ac amodau

Drwy ddefnyddio’r wefan hon, rydych yn derbyn y telerau a’r amodau hyn sy’n weithredol o ddyddiad eich defnydd cyntaf o’r safle. Rydym yn cadw’r hawl i newid y telerau a’r amodau hyn ar unrhyw adeg drwy nodi unrhyw newidiadau ar-lein. Mae parhau i ddefnyddio’r wefan hon ar ôl nodi unrhyw newidiadau yn dangos eich bod yn derbyn y telerau a’r amodau wedi’u haddasu.   

  1. Mae’r wefan hon ar gyfer eich defnydd personol ac anfasnachol chi eich hun. Ar wahân i’r data, ni chaniateir copïo, atgynhyrchu, ailgyhoeddi, lawrlwytho, postio, darlledu na throsglwyddo unrhyw ddeunydd mewn unrhyw ffordd ac eithrio ar gyfer defnydd personol, anfasnachol gartref. Mae unrhyw ddefnydd arall angen ein caniatâd ysgrifenedig blaenorol ni. Er nad oes raid i chi ofyn am ein caniatâd ni ar gyfer ailddefnyddio ein data, rhaid i chi dderbyn telerau Trwydded Agored y Llywodraeth(External link – Opens in a new tab or window).
  2. Rydych yn cytuno i ddefnyddio’r safle yma at ddibenion cyfreithiol yn unig ac mewn ffordd nad yw’n amharu ar hawliau, nac yn cyfyngu ar neu’n atal y defnydd a’r mwynhad o’r safle hwn gan unrhyw drydydd parti. Ni ddylech chwaith achosi unrhyw annifyrrwch, anghyfleustra neu bryder diangen i unrhyw drydydd parti. Yn ddigyfyngiad, mae cyfyngu neu atal o’r fath yn cynnwys ymddygiad sy’n anghyfreithlon, difenwol neu’n cam-drin. Ni ddylech chwaith aflonyddu, achosi gofid, anghyfleustra, niwsans neu fygythiad i unrhyw berson, na throsglwyddo cynnwys anweddus, bygythiol neu sy’n tramgwyddo. Hefyd, ni ddylech darfu ar lif normal deialog y wefan hon.         
  3. Mae’r wefan hon yn cynnwys dolenni at safleoedd eraill, nad ydynt yn cael eu gweithredu gan y Cyngor efallai. Nid ydym yn gyfrifol am gynnwys y safleoedd hyn nac yn derbyn unrhyw atebolrwydd os byddwch yn eu defnyddio.
  4. Rydym yn ceisio sicrhau bod holl wybodaeth a deunydd y wefan hon yn fanwl gywir. Ond eto nid ydym yn derbyn unrhyw atebolrwydd am gamgymeriadau a hepgoriadau, ac nid ydym yn gwarantu na fydd unrhyw darfu ar y defnydd o’r safle. Rydym yn darparu’r deunydd a gyhoeddir ar ein gwefan ar y sail ein bod yn ymwadu pob gwarant am ddeunydd o’r fath, boed benodol neu amhenodol. Nid yw’r Cyngor, ei gyflogeion, ei gyflenwyr na darparwyr gwreiddiol y deunydd yn derbyn unrhyw atebolrwydd am unrhyw golled uniongyrchol, anuniongyrchol, digwyddiadol neu ganlyniadol o ran busnes, refeniw neu elw, neu ddifrod arbennig oherwydd deunyddiau’r wefan neu ddefnyddio’r wefan.
  5. Rydych yn cydnabod bod yr holl hawliau eiddo deallusol, gan gynnwys hawliau hawlfraint a bas data yn ein gwefan a’i chynnwys, yn perthyn i neu wedi cael eu trwyddedu i ni. Fel arall rydym yn eu defnyddio fel y caniateir gan y gyfraith berthnasol.
  6. Mae gennym hawl i olygu a gwrthod postio neu ddileu unrhyw ddeunydd a gyflwynir neu a roddir ar y wefan hon. Nid ydym yn gyfrifol nac yn derbyn unrhyw atebolrwydd am unrhyw ddeunydd a roddir ar y wefan ar wahân i ddeunydd gan y Cyngor. Mae unrhyw farn, cyngor, datganiad, cynnig neu wybodaeth arall a fynegir neu a ddaw ar gael gan drydydd parti ar ein safle yn eiddo i’r trydydd parti dan sylw. Nid ydym yn cymeradwyo nac yn gyfrifol am fanwl gywirdeb neu atebolrwydd deunydd o’r fath gan drydydd parti. 
  7. Mae cyfreithiau Cymru a Lloegr yn llywodraethu’r telerau a’r amodau hyn. Llysoedd Cymru a Lloegr yn unig fydd yn datrys unrhyw anghydfod perthnasol i’r telerau a’r amodau hyn.
  8. Os oes unrhyw beth yn peri pryder i chi ar y wefan hon, defnyddiwch y ffurflen adborth ar waelod pob tudalen.                  
  9. Os ydych yn anfodlon gydag unrhyw ran o’r wefan hon neu unrhyw rai o’r telerau a’r amodau hyn, stopiwch ddefnyddio’r safle ar unwaith. 

Os yw unrhyw un o’r telerau a’r amodau yn anghyfreithlon, yn annilys neu os nad oes modd ei orfodi am unrhyw reswm arall, bydd yn cael ei gwtogi a’i ddileu i’r graddau mae’n anghyfreithlon, yn annilys neu’n amhosib ei orfodi. Bydd y telerau a’r amodau sy’n weddill yn parhau, yn aros mewn grym ac effaith llawn, ac yn parhau i rwymo a chael eu gorfodi.