Hygyrchedd

Rydym yn parhau i weithio gyda’r Ganolfan Hygyrchedd Digidol (CHD) (External link – Opens in a new tab or window) i sicrhau bod ein gwefan yn hygyrch i gymaint o bobl ag sy’n bosib, waeth beth fo’r dechnoleg neu’r gallu. Hefyd, rydym yn ymrwymedig i wella ein gwasanaethau ar-lein i breswylwyr a busnesau.

Gwrando ar ein gwefan

Gallwch ddefnyddio Browsealoud (External link – Opens in a new tab or window) am ddim i wrando ar ein gwefan trwy ddilyn y ddolen ar ben y tudalen hwn. Mae Browsealoud yn ddefnyddiol os oes gennych chi:

  • ddyslecsia
  • anawsterau dysgu
  • namau gweledol ysgafn
  • yn defnyddio Saesneg fel Iaith Ychwanegol

Nodweddion hygyrchedd

Iaith syml

Rydym yn ceisio ysgrifennu mewn iaith syml ac osgoi jargon lle y bo hynny’n bosibl. Os nad ydych chi’n deall unrhyw beth, rhowch wybod i ni.

Strwythurau pennawd

Mae’r wefan yn defnyddio strwythurau pennawd a ddylai ei gwneud hi’n haws gwe-lywio, yn enwedig ar gyfer pobl sydd â darllenwyr sgrin.

Safonau Gwe

Rydym yn trio ein gorau i gydymffurfio â safonau cod megis y rhai hynny yn ymwneud â CSS a HTML, yn ogystal â chanllawiau W3C a WAI (External link – Opens in a new tab or window).

Dolenni

Er mwyn hysbysu’r bobl hynny sy’n defnyddio darllenwyr sgrin, rydym wrthi’n ychwanegu eiconau at ein dolenni mewn dogfennau sy’n agor mewn ffenestr newydd neu i wefannau eraill. Mae gan yr eicon hefyd gynnwys cuddiedig ar gyfer darllenwyr sgrin sy’n nodi bod dolenni’n agor mewn ffenestri newydd ac os ydynt yn cysylltu â gwahanol wefannau.

Ffurflenni

Nid yw’r ffurflenni wedi’u hymgorffori a ddefnyddir ar y wefan hon yn gwbl hygyrch i ddarllenwyr sgrin. Rydym wrthi’n cydweithio â CHD i ddatrys hyn.

Dogfennau

Rydym yn ceisio sicrhau bod ein dogfennau mor hygyrch â phosibl, ond weithiau nid yw hyn yn bosibl. Os oes angen dogfen arnoch mewn fformat gwahanol, cysylltwch â ni ac fe wnawn ein gorau i sicrhau hynny.

Nodweddion tudalen newidiol

Maint y testun

Os ystyriwch fod maint y testun a ragosodir yn rhy fach neu fawr, gallwch ei newid gan ddefnyddio swyddogaeth newid maint testun eich porwr.

I newid maint y testun gan ddefnyddio’ch porwr:

  • Defnyddiwch y ddewislen ‘View’ ac yna dewiswch ‘Text Size’ yn Windows Internet Explorer (gan gynnwys y ffurf syml)
  • Defnyddiwch y ddewislen ‘View’ ac yna dewiswch ‘Text Size’ yn Firefox a phorwyr Mozilla eraill
  • Defnyddiwch y ddewislen ‘View’ ac yna dewiswch ‘Make Text Bigger’ yn Safari
  • Defnyddiwch y dewislenni ‘View’ a ‘Style’, ac yna ‘User Mode’ yn Opera
  • Defnyddiwch y ddewislen ‘View’ ac yna ‘Text Zoom’ yn Macintosh Internet Explorer, a Netscape 6 a 7

Gan ddefnyddio olwyn llygoden, efallai y bydd modd i chi newid maint y testun drwy wasgu’r allwedd Control neu Command a throi’r olwyn. Mewn rhai porwyr, gallwch newid maint y testun gan ddefnyddio’r allwedd Control neu Command a’r allweddi + neu -.

Arddull a lliw y testun

Gallwch hefyd ddiwygio arddull a lliw’r ffont, yn ogystal â’r lliw blaen a’r lliw cefndir. Mae’r ffordd yr ydych yn gwneud hyn yn amrywio gan ddibynnu ar eich porwr. Bydd angen i chi:

  • Defnyddiwch ‘Tools’ o dan ‘Internet Options’ yn Windows Internet Explorer (gan gynnwys y ffurf syml)
  • Defnyddiwch ‘Tools’ o fewn ‘Options’ o dan ‘Content’ yn Firefox a phorwyr Mozilla eraill
  • Defnyddiwch y ddewislen ‘View’ ac yna dewisiwch ‘Make Text Bigger’ yn Safari
  • Defnyddiwch y ddewislen ‘View’ ac yna ‘Zoom’ yn Opera
  • Defnyddiwch y ddewislen ‘View’ ac yna ‘Text Zoom’ yn Macintosh Internet Explorer, a Netscape 6 a 7

Dogfennau

Mae’r canlynol yn berthnasol i gyfrifiaduron bwrdd gwaith a gliniaduron, ond nid cyfrifiaduron llechen na ffonau symudol.

Dogfennau PDF: bydd y rhan fwyaf o gyfrifiaduron yn dangos y rhain heb ofyn. Os ydych chi angen y feddalwedd, gallwch lawrlwytho’r darllenydd PDF am ddim oddi ar wefan Adobe (External link – Opens in a new tab or window).

Cynnwys amlgyfrwng

Caiff ein fideos ar ein gwefan eu hymgorffori drwy wefan YouTube. Oherwydd hyn, efallai na fydd rhai nodweddion hygyrchedd ar gael, sydd y tu hwnt i’n rheolaeth. Ewch i dudalennau cymorth YouTube (External link – Opens in a new tab or window) i gael gwybodaeth am wylio fideos gan ddefnyddio darllenwyr sgrin.

Cynnwys wedi’i ymgorffori 

Mae ein gwefan yn defnyddio cynnwys wedi’i ymgorffori o wefannau eraill. Gallai hyn leihau hygyrchedd wrth geisio cael gafael ar gynnwys yn uniongyrchol gan ddefnyddio allweddellau neu dechnoleg darllen sgrin. Os byddwch chi’n profi’r broblem hon, cysylltwch â ni fel bod modd i ni eich helpu lle y bo’n bosibl, a datrys unrhyw broblemau.

Anfonwch unrhyw syniadau neu awgrymiadau er mwyn helpu i wella’r wefan drwy’r botymau adborth isod.